SL(6)368 – Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2023

Cefndir a diben

Mae Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2023 (“y Rheoliadau hyn”) yn diwygio Rhan 2 o Atodlen 9 i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 (O.S. 2016/1154). Mae’r Rhan honno’n ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr cyfleusterau deunyddiau hysbysu’r rheoleiddiwr os ydynt yn cael 1,000 tunnell neu ragor o ddeunydd gwastraff. Rhaid i weithredwyr gymryd sampl o’r gwastraff sy’n cyrraedd ac yn gadael y cyfleuster, a chofnodi ac adrodd ar yr wybodaeth honno i’r rheoleiddiwr.

Yn rhinwedd y diwygiadau hyn (ac yn benodol y diffiniad o ddeunydd gwastraff yn rheoliad 2(4)), bydd y math o ddeunydd gwastraff y mae’r trothwy ar gyfer hysbysu’r rheoleiddiwr yn gymwys iddo yn cynnwys deunydd gwastraff o un math, yn hytrach na dim ond deunydd o ddau fath neu ragor wedi eu cymysgu.

Mae gofynion samplu wedi eu diwygio, mewn cysylltiad â deunydd gwastraff a geir mewn cyfleuster deunyddiau (rheoliad 2(7)) a deunydd gwastraff sy’n gadael y cyfleuster hwnnw (rheoliad 2(8)), i estyn y mathau o ddeunydd y mae’n ofynnol eu nodi, gan gynnwys mathau o ddeunydd pacio.

Mae rheoliad 2(9) yn diwygio’r trefniadau ar gyfer cadw cofnodion i adlewyrchu’r gofynion cymryd sampl newydd ac i’w gwneud yn ofynnol nodi cyflenwr pob swp o ddeunydd gwastraff a geir yn y cyfleuster deunyddiau. Mae rheoliad 2(11) yn gwneud diwygiadau cyfatebol i’r trefniadau ar gyfer adrodd i’r rheoleiddiwr.

Mae’r cyfnod y mae’n ofynnol cadw cofnodion ynddo ar gyfer gwybodaeth a gofnodir ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym wedi ei estyn o bedair i saith mlynedd (rheoliad 2(10)).

Caniateir rhannu gwybodaeth a gafwyd gan y rheoleiddiwr â’r gweinyddwr ar gyfer cynllun ar gyfer cyfrifoldeb cynhyrchwyr am gostau gwaredu (rheoliad 2(12)).

Bydd yn ofynnol i’r holl gyfleusterau deunyddiau o fewn cwmpas gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn erbyn 1 Hydref 2024 ac adrodd ar ddata’r chwarter cyntaf i’r rheoleiddiwr erbyn 1 Ionawr 2025.

Y weithdrefn

Cadarnhaol Drafft Cyfansawdd

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau gerbron Senedd Cymru a Senedd y Deyrnas Unedig. 

Ni chaiff Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU wneud y Rheoliadau oni bai bod Senedd Cymru a Senedd y DU yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.

 

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae’r Pwyllgor yn nodi bod y Rheoliadau hyn yn gyfansawdd eu natur. Mae paragraff 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol yn nodi’r canlynol:

“Gan y bydd y rheoliadau'n destun craffu gan Senedd y DU, nid ystyrir ei bod yn ymarferol resymol i'r offeryn hwn gael ei wneud na'i osod yn ddwyieithog.”

 

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â'r offeryn hwn.

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â fframweithiau cyffredin. Yn flaenorol, gwnaed ymrwymiad i’r Pwyllgor i hysbysu’r Senedd pan fydd deddfwriaeth yn ymwneud â fframwaith cyffredin.

Mae llythyr gan Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, ar 26 Mehefin 2023, yn datgan fel a ganlyn:

"Rwy'n ysgrifennu er mwyn eich hysbysu bod Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2023 a fydd yn cael eu gosod gerbron Senedd Cymru yn fuan yn dod o dan gwmpas y Fframwaith Cyffredin ar gyfer Adnoddau a Gwastraff."

 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

17 Awst 2023